Trawsgwlad: Bu plant dosbarth Mr Leggett yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Trawsgwlad Cylch Aberystwyth ar brynhawn Hydref 10fed ar Gaeau’r Ficerdy yn Aberystwyth. Rhedodd y plant yn wych a chafwyd prynhawn braf o gystadlu mewn ysbryd da.
Cinio i’r Gymuned: Cynhaliwyd ‘Cinio i’r Gymuned’ yn ddiweddar yn ysgol Craig yr Wylfa. Mae’r cinio’n fenter sy’n rhoi croeso i henoed y gymuned ymuno â staff a phlant yr ysgol er mwyn rhannu cinio, cael clonc a chyfle i gwrdd yn anffurfiol. Bu’r cinio yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle dysgu arbennig i’r disgyblion wrth iddynt holi’r gwestai ynglŷn â’u profiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef testun hanes y plant y tymor hwn.
Diolch o galon i Mari Turner o Gwmni Theatr Arad Goch sydd wedi bod yn gweithio gyda disgyblion dosbarth Mr Leggett mewn gweithdai drama sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad iaith Gymraeg y disgyblion.
Dathlwyd Cwrdd Diolchgarwch yr ysgol ar brynhawn dydd Mawrth, Hydref 18fed yn Eglwys St. Matthew, Borth. Cafwyd perfformiad graenus gan y disgyblion gan gynnwys canu ac adrodd hyderus. Roedd neges y plant yn gryf i’r gynulleidfa, a hynny oedd cofio pa mor bwysig ydyw i ni i ddweud “Diolch”. Diolch yn fawr iawn i’r Ficer, Cecilia Charles am ei chyfraniad a’i chefnogaeth, i Joy Cook am fod mor barod i ddarllen ac i Mr Leggett oedd yn chwarae’r organ.
Llongyfarchiadau i blant Cyfnod Allweddol 2 wnaeth perfformio gydag Opera Canolbarth Cymru yn ei chynhyrchiad o opera Benjamin Britten, Noye’s Fludde yng Nghanolfan y Celfeddydau.
Lansiwyd Apêl Pabi Coch y Borth yn Ysgol Craig yr Wylfa ar fore oer, Tachwedd 3ydd gydag aelodau’r Lleng Brenhinol Prydeinig, y Cynghorydd Ray Quant, y Parchedig David Williams, plant, staff a chefnogwyr yr ysgol.
Bu’r disgyblion yn ymweld â Ysgol Penglais ar fore’r 3ydd o Dachwedd i wylio cynhyrchiad yr ysgol o’r sioe gerdd enwog ‘The Wizard of Oz’. Diolch yn fawr iawn i Ysgol Penglais am y gwahoddiad ac am y croeso cynnes. Roedd y sioe yn ardderchog ac yn sicr fe wnaeth pawb mwynhau mas draw.
Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur yn diddanu trigolion yr ardal yn ddiweddar. Buodd y plant yn ymweld â Chymdeithas Henoed y Borth ar brynhawn 3ydd Tachwedd yn Neuadd y Pentref. Hefyd, bu’r plant yn cymryd rhan mewn gwasanaeth Sul y Cofio yn y Neuadd Bentref, noswaith y 6ed o Dachwedd.
Diolch i Karen Rees Roberts, Swyddog Tân o gangen Brigad Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymweld â’r disgyblion yn nosbarth Mrs Edwards a Mr Leggett yn ddiweddar. Wnaeth y plant ymateb yn arbennig o dda a throsglwyddwyd negeseuon pwysig tu hwnt i’r plant a’r staff ynglŷn â diogelwch tân. |