Mae “Criw'r Graig” sef Cyngor Ysgol Craig yr Wylfa yn cwrdd bob hanner tymor ac yn ôl y galw. Ceir etholiad pob blwyddyn er mwyn ethol y Cyngor Ysgol sy'n cynnwys aelodau o flwyddyn 2 i fyny. Maent yn bwriadu cynnal diwrnodau i godi arian ar gyfer prynu adnoddau amser chwarae i’r Ysgol a hefyd i’r elusen “Latch.” Cawn glywed pa syniadau cyffrous arall fydd ganddynt yn ystod y flwyddyn.